Meithrinfa Coleg Iâl
DIBEN
Ein nod yw darparu amgylchedd diogel, ysgogol a gofalgar ar gyfer plant o 3 mis i 4 oed tra bo'u rhieni'n astudio yn y Coleg.
TREFN
Mae'r Feithrinfa ar agor rhwng 8.45am a 4.20pm o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod tymor y Coleg.
Mae'r Feithrinfa wedi'i chofrestru i gymryd 31 o blant cyn oed ysgol ym mhob sesiwn gan gynnwys 4 babi.
Cymhareb Oedolion/Plant: yn unol â chymarebau Safonau Gofal Cymru
Saesneg yw cyfrwng y gofal a gynigir
FFIOEDD
Codir £33.00 y dydd, neu £18.00 y sesiwn. Codir y ffi llawn am absenoldeb. Rhaid talu o flaen llaw.
Y POLISI DERBYN
Dim ond plant y mae eu rhiant/gwarcheidwad yn fyfyrwyr yn y Coleg a dderbynnir i’r Feithrinfa ac mae’n rhaid i’r plant fod rhwng 3 mis a 4 oed.
Caiff lleoedd yn y Feithrinfa eu rhoi ar sail y cyntaf i’r felin ar y Diwrnod Cofrestru ar ddechrau Tymor yr Hydref (gellir cael manylion am y Diwrnod Cofrestru o’r Coleg trwy ofyn amdanynt).
Petai’r holl leoedd yn cael eu llenwi ar y diwrnod cofrestru, bydd rhestr aros yn cael ei chadw a bydd lleoedd yn cael eu cynnig fel y byddant yn dod ar gael.
Caiff lle yn y Feithrinfa ei warantu i blant y mae eu rhieni/gwarcheidwaid yn parhau i astudio am fwy nag un flwyddyn academaidd, hyd nes y bydd y rhieni/gwarcheidwaid wedi cwblhau eu hastudiaethau.
Y STAFF
Goruchwylwyr: Barbara Bury a Pam Owen
Goruchwyliwr Cynorthwyol: Sara Anderson
Cynorthwywr Gweithiwr Allweddol: Sian Jones
Cynorthwywyr Gofal: Ceri Evans, Phillip Lloyd, Fiona Norman, Bethan Poley, Angela Roberts, a Vanessa Jones.
Mae Barbara, Pam, Sara a Sian wedi'u dynodi'n weithwyr allweddol ac mae gan bob un ohonynt gymwysterau NNEB/CGC Lefel 3 neu'n uwch, ac mae ganddynt lawer o brofiad o ofalu am blant ifanc.
Mae gan yr holl Gynorthwywyr Gofal gymwysterau a phrofiad gofal plant perthnasol.
Y DREFN A'R GWEITHGAREDDAU
Rydym am i'ch plentyn gael amser hapus ac ysgogol tra ei f/bod yn y Feithrinfa. Er mwyn sicrhau hynny mae gennym drefn a rhaglen weithgareddau sydd wedi'u cynllunio'n ofalus fel a ganlyn:
- 8.45am - 10.10am
Chwarae rhydd - gall y plant ddewis eu gweithgareddau o amrediad o deganau/gemau bwrdd i weithgareddau o gwmpas yr ystafell e.e. gwisgo i fyny, darllen llyfr, chwarae yn y ty bach twt ac ati. Fel rheol, yn ystod y cyfnod hwn bydd y gweithgareddau crefft/chwarae blêr yn digwydd. - 10.10am - 10.20am
Tacluso - anogir y plant i helpu gyda'r tacluso. - 10.20am - 10.45am
Amser stori - rydym i gyd yn casglu yn y gornel stori ac yn sgwrsio am bynciau amserol a rhannu newyddion y plant. Yna, byddwn yn gwrando ar nifer o storïau ac yn canu caneuon/rhigymau. - 10.45am - 11.00am
Amser byrbryd - rydym i gyd yn eistedd wrth fyrddau i gael diod a byrbryd. Rydym yn amrywio'r byrbrydau drwy'r wythnos ac maent yn cynnwys ffrwythau, tost, craceri a bisgedi grawnfwyd sych. Mae hwn yn amser cymdeithasol iawn pan fydd aelodau'r staff yn eistedd gyda'r plant er mwyn annog sgiliau cymdeithasol da. - 11.00am - 11.50am
Chwarae rhydd - 11.50am - 12 canol dydd
Amser tacluso - anogir y plant i helpu gyda'r tacluso. - 12 canol dydd - 12.30pm
Amser cinio – unwaith eto eisteddwn wrth y byrddau a gweinir pryd poeth, maethlon i’r plant. - 12.30pm - 1.00pm
Amser tawel - bydd rhai o'r plant yn mynd i gysgu ar yr adeg hon, tra bydd rhai eraill yn eistedd yn y gornel ddistaw lle caiff awyrgylch ymlaciol ei greu er mwyn i'r plant orffwys tra'n gwylio'r teledu. - 1.00pm - 2.15pm
Chwarae rhydd/ Chwarae tu allan - 2.15pm - 2.30pm
Amser byrbryd, fel yn y bore - 2.30pm - 4.20pm
Chwarae rhydd.
Sylwer: amrywir y teganau/gemau bwrdd ar gyfer pob sesiwn chwarae rhydd.
Mae holl amseroedd amserlen y Feithrinfa yn hyblyg er mwyn i'r plant fedru mwynhau'r gemau a'r gweithgareddau'n llawn.
Anogir pob plentyn i gymryd rhan yn nhrefn a gweithgareddau'r Feithrinfa er y bydd anghenion unigol y plant bob amser yn cael eu hystyried.
Dilynir trefn cartref y babanod cyn belled ag sy'n bosibl.
Dewisir ac addasir pob gweithgaredd er mwyn datblygu anghenion cymdeithasol, corfforol, emosiynol a deallusol pob plentyn unigol yn y Feithrinfa. Rydym yn dilyn thema bob wythnos ac mae'r holl weithgareddau wedi'u llunio tuag at hyn.
* Bydd pob darn o waith arlunio/celf y bydd eich plentyn yn ei greu yn cael ei arddangos yn y Feithrinfa, neu gellir ei gymryd adref.
Yn bennaf oll, rydym yn ymdrechu i greu amgylchfyd diogel, ysgogol, hapus a gofalgar ar gyfer eich plentyn
ANGHENION ARBENNIG
Bydd y Feithrinfa yn ymdrechu i ddarparu'r gofal gorau posibl ar gyfer pob plentyn. Os oes gan eich plentyn anghenion arbennig argymhellir eich bod yn cysylltu â'r Feithrinfa er mwyn trafod pa ofal sy'n addas ar gyfer eich plentyn.
BYRBRYDAU A CHINIO
Darperir byrbrydau iachus ar gyfer y plant ganol bore a chanol y prynhawn.
Os na chaniateir i'ch plentyn gael rhai bwydydd neu ddiodydd gofynnir i chi ddweud wrth y staff. Darperir pryd poeth, maethlon bob dydd ac mae’r fwydlen yn amrywiol a chytbwys i fodloni anghenion yr holl blant. Rhowch wybod i’r Feithrinfa os gwelwch yn dda os oes rhai bwydydd na all eich plentyn eu bwyta.
NEWID CLYTIAU
Rhaid i rieni ddarparu clytiau a sychwyr glanhau, a sicrhau bod gan y staff ddigon ar gyfer pob plentyn. Gofynnir i chi ddod â digon am yr wythnos a rhoi enw eich plentyn arnynt yn glir.
CYFARFOD Â'R STAFF
Teimlwn ei bod yn fanteisiol i chi ddod â'ch plentyn i'n cyfarfod cyn i'ch cwrs ddechrau, ac i'ch plentyn ddod yn gyfarwydd â'r cyfleusterau a'r staff. Petai gennych unrhyw geisiadau neu broblemau arbennig gofynnwch i aelod o'r staff.
GALW AM BLENTYN
Er mwyn diogelwch, os oes rhywun gwahanol i'r rhiant/gwarcheidwad yn dod i nôl y plentyn RHAID hysbysu Goruchwylwyr y Feithrinfa. Yn ddelfrydol, byddai staff y Feithrinfa yn hoffi cyfarfod â'r person enwebedig o flaen llaw. Os nad yw hyn yn bosibl mae'n bwysig eich bod yn dangos ffotograff da neu'n rhoi disgrifiad cywir ohono/ohoni. Rydym hefyd yn gweithredu system cyfrinair. Os na fyddwch wedi ein hysbysu, ni fydd y Goruchwylwyr yn caniatáu i'r plentyn adael y Feithrinfa.
GWNEUD CWYNION
Ein nod yw darparu'r gofal gorau posibl ar gyfer eich plentyn, ond os ydych yn anfodlon gofynnir i chi siarad ag un o'r goruchwylwyr i ddechrau neu gydag Angela Woolrich, Cyfarwyddwr Cymorth/Cynnal Myfyrwyr yn y coleg.
Er hynny, yn y sefyllfa annhebygol eich bod yn teimlo nad yw eich cŵyn wedi ei thrin yn foddhaol efallai byddwch yn dymuno cysylltu ag Arolygaeth Safonau Gofal Cymru yn Nhy Broncoed, Parc Busnes Broncoed, Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug, ffôn 01352 707900.
GWYBODAETH BELLACH
Petaech angen unrhyw wybodaeth bellach, neu os ydych am drefnu i weld y Feithrinfa, mae croeso i chi gysylltu â'r goruchwylwyr, Barbara neu Pam, ar Wrecsam 311794 est. 2214.