Rheolaeth a Gwybodaeth Gorfforaethol
Croeso i adran Reolaeth o wefan Coleg Iâl. Yma cewch wybodaeth am y Corff Llywodraethol a’i gyfarfodydd. Ar hyn o bryd, mae gan Gorff Llywodraethol Coleg Iâl un aelod ar bymtheg sy’n gwasanaethu am gyfnod o bedair blynedd ar y tro ac yn rhoi eu gwasanaeth yn ddi-dâl.
Sefydlwyd y gorfforaeth gan Ddeddf Llywodraeth ym 1992 ac mae’n gweithredu yn ôl offeryn ac erthyglau rheoli a gymeradwywyd gan y Llywodraeth ym 1999 ynghyd â rheolau sefydlog a chylch gorchwyl a gymeradwywyd gan y Corff Llywodraethol ac a adolygir yn flynyddol. Cymeradwyodd y Corff Llywodraethol Gôd Ymddygiad i’w aelodau. Rhaid i’r aelodau ddatgan unrhyw ddiddordeb a allai wrthdaro â’u rôl fel Llywodraethwyr.